ATODLEN 3TRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT
I1I81Dim cydnabyddiaeth drethadwy
Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno os nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (ond gweler adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig)).
I2I92Caffaeliadau gan y Goron
Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno pan fo’r prynwr oddi tano yn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
a
Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;
b
un o Weinidogion y Goron;
c
Gweinidogion yr Alban;
d
adran yng Ngogledd Iwerddon;
e
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
f
Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Arglwyddi;
g
Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Cyffredin;
h
Corff Corfforaethol Senedd yr Alban;
i
Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon.
I3I103Trafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad etc.
Mae trafodiad rhwng un parti i briodas a’r llall (pa un a yw’r briodas yn dal mewn bod ar adeg y trafodiad ai peidio) yn esempt rhag codi treth arno os rhoddir effaith iddo—
a
yn unol â gorchymyn llys a wneir wrth ganiatáu F1 gorchymyn neu archddyfarniad ar gyfer diddymiad neu ddirymiad y briodas neu ymwahaniad cyfreithiol mewn cysylltiad â’r partïon;
b
yn unol â gorchymyn llys a wneir mewn cysylltiad â diddymiad neu ddirymiad y briodas, neu ymwahaniad cyfreithiol y partïon, ar unrhyw adeg ar ôl caniatáu F2gorchymyn neu archddyfarniad o’r fath fel y crybwyllir ym mharagraff (a);
c
yn unol â—
i
gorchymyn llys a wneir ar unrhyw adeg o dan adran 22A, 23A neu 24A o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18), neu
ii
gorchymyn llys atodol a wneir o dan adran 8(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu (Yr Alban) 1985 (p. 37) yn rhinwedd adran 14(1) o’r Ddeddf honno;
d
ar unrhyw adeg yn unol â chytundeb y partïon a wneir gan ddisgwyl diddymiad neu ddirymiad y briodas, eu hymwahaniad cyfreithiol neu wneud gorchymyn gwahanu mewn cysylltiad â hwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.
I4I114Trafodiadau mewn cysylltiad â diddymiad partneriaeth sifil etc.
Mae trafodiad rhwng un parti i bartneriaeth sifil a’r llall (pa un a yw’r bartneriaeth sifil yn dal mewn bod ar adeg y trafodiad ai peidio) yn esempt rhag codi treth arno os rhoddir effaith iddo—
a
yn unol â gorchymyn llys a wneir wrth ganiatáu gorchymyn neu archddyfarniad mewn cysylltiad â’r partïon ar gyfer diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil neu eu hymwahaniad cyfreithiol;
b
yn unol â gorchymyn llys a wneir mewn cysylltiad â diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil, neu ymwahaniad cyfreithiol y partïon, ar unrhyw adeg ar ôl caniatáu gorchymyn neu archddyfarniad o’r fath fel y crybwyllir ym mharagraff (a);
c
yn unol â—
i
gorchymyn llys a wneir ar unrhyw adeg o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) sy’n cyfateb i adran 22A, 23A neu 24A o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18), neu
ii
gorchymyn llys atodol a wneir o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) sy’n cyfateb i adran 8(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu (Yr Alban) 1985 (p. 37) yn rhinwedd adran 14(1) o’r Ddeddf 1985 honno;
d
ar unrhyw adeg yn unol â chytundeb y partïon a wneir gan ddisgwyl diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil, eu hymwahaniad cyfreithiol neu wneud gorchymyn gwahanu mewn cysylltiad â hwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.
I5I125Cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol
1
Mae caffael eiddo gan berson wrth ddiwallu hawlogaeth y person o dan neu mewn perthynas ag ewyllys person ymadawedig, neu tuag at hynny, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig, yn esempt rhag codi treth arno.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n caffael yr eiddo yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth amdano, ac eithrio ysgwyddo dyled sicredig.
3
Pan na fo is-baragraff (1) yn gymwys oherwydd is-baragraff (2), pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(1) o Atodlen 4.
4
Yn y paragraff hwn—
ystyr “dyled” (“debt”) yw rhwymedigaeth, pa un ai’n bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu ar ddyddiad yn y dyfodol, ac
ystyr “dyled sicredig” (“secured debt”) yw dyled a sicrheir ar yr eiddo yn union ar ôl marwolaeth y person ymadawedig.
I6I136Amrywio gwarediadau testamentaidd etc.
1
Pan fydd person yn marw, mae trafodiad sy’n amrywio gwarediad eiddo (pa un a roddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith mewn perthynas â diewyllysedd neu fel arall) yr oedd yr ymadawedig yn gymwys i’w waredu yn esempt rhag codi treth arno os bodlonir yr amodau a ganlyn.
2
Yr amodau yw—
a
bod y trafodiad yn cael ei gyflawni o fewn y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth person, a
b
na roddir unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na chyfwerth ariannol ar ei gyfer ac eithrio amrywio gwarediad arall o’r fath.
3
Pan na fo’r amod yn is-baragraff (2)(b) wedi ei gyflawni, pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(3) o Atodlen 4.
4
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw gweinyddiad yr ystad wedi ei gwblhau ai peidio neu pa un a yw’r eiddo wedi ei ddosbarthu yn unol â’r gwarediadau gwreiddiol ai peidio.
I7I147Pŵer i ychwanegu, i dynnu ymaith neu i amrywio esemptiadau
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Atodlen hon er mwyn—
a
darparu i drafodiad tir o unrhyw ddisgrifiad arall fod yn esempt rhag codi treth arno;
b
darparu nad yw disgrifiad o drafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno mwyach;
c
amrywio disgrifiad o drafodiad tir sy’n esempt rhag codi treth arno.