ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY

I1I213Trafodiad tir yr ymrwymir iddo o ganlyniad i gyflogaeth

Pan ymrwymir i drafodiad tir o ganlyniad i gyflogaeth y prynwr, neu gyflogaeth person sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yna—

a

os yw’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan Bennod 5 o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (buddion trethadwy: llety preswyl) ac—

i

nad oes unrhyw rent yn daladwy gan y prynwr, neu

ii

bod y rhent sy’n daladwy gan y prynwr yn llai na swm cyfwerth ag arian parod y budd wedi ei gyfrifo o dan adran 105 neu 106 o’r Ddeddf honno,

cymerir bod swm yn daladwy gan y prynwr fel rhent sy’n hafal â’r swm cyfwerth ag arian parod sydd i’w godi o dan yr adrannau hynny;

b

pe bai’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan y Bennod honno oni bai am adran 99 o’r Ddeddf honno (llety a ddarperir am gyflawni dyletswyddau), y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yw’r gydnabyddiaeth wirioneddol (os oes un);

c

os nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn gymwys, cymerir nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn ddim llai na gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.