Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Indemniad a roddir gan brynwrLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

14Pan fo’r prynwr yn cytuno i indemnio’r gwerthwr mewn cysylltiad ag atebolrwydd i drydydd parti sy’n codi o dorri rhwymedigaeth ar ran y gwerthwr mewn perthynas â’r tir y mae’r trafodiad yn ymwneud ag ef, nid yw’r cytundeb nac unrhyw daliad a wneir yn unol ag ef yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3