ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
Trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol
18
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn unrhyw achos pan ymrwymir i drefniadau—
(a)
lle trosglwyddir tir, neu y rhoddir neu yr aseinir les ar gyfer tir, gan gorff cymwys (“A”) i berson nad yw’n gorff cymwys (“B”) (“y prif drosglwyddiad”),
(b)
lle rhoddir, yn gydnabyddiaeth (boed lwyr neu rannol) ar gyfer y prif drosglwyddiad, les neu is-les gan B i A ar gyfer yr holl dir hwnnw, neu’r holl dir i raddau helaeth (“yr adles”),
(c)
pan fo B yn ymrwymo i wneud gwaith neu ddarparu gwasanaethau i A, a
(d)
pan fo peth o’r gydnabyddiaeth neu’r holl gydnabyddiaeth a roddir gan A i B am wneud y gwaith hwnnw neu ddarparu’r gwasanaethau hynny yn gydnabyddiaeth mewn arian,
pa un a drosglwyddir, neu y rhoddir neu yr aseinir les, ar gyfer unrhyw dir arall yn ogystal gan A i B ai peidio (“trosglwyddiad o dir dros ben”).
(2)
Mae’r canlynol yn gyrff cymwys—
(a)
cyrff cyhoeddus o fewn paragraff 1 o Atodlen 20 neu a bennir mewn rheoliadau o dan y paragraff hwnnw (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);
(b)
sefydliadau o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch o fewn ystyr adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);
(c)
corfforaethau addysg bellach o fewn ystyr adran 17 o’r Ddeddf honno;
(d)
corfforaethau addysg uwch o fewn ystyr adran 90 o’r Ddeddf honno.
(3)
Nid yw’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y prif drosglwyddiad nac unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben—
(a)
yr adles,
(b)
B yn gwneud gwaith adeiladu i A, neu
(c)
B yn darparu gwasanaethau i A.
(4)
Nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr adles yn cynnwys—
(a)
y prif drosglwyddiad,
(b)
unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben, neu
(c)
y gydnabyddiaeth mewn arian a delir gan A i B am y gwaith adeiladu neu’r gwasanaethau eraill y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3).
(5)
Mae is-baragraffau (3) a (4) i’w diystyru at ddibenion pennu a yw’r trafodiad tir o dan sylw yn un hysbysadwy.