ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
8Dyled fel cydnabyddiaeth
1
Pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf—
a
ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus i’r prynwr neu gan y gwerthwr, neu
b
ysgwyddo dyled bresennol gan y prynwr,
cymerir mai swm y ddyled a ad-delir, a ollyngir neu a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.
2
Ond pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf y canlynol ill dau—
a
ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus gan y gwerthwr, a
b
ysgwyddo’r ddyled honno gan y prynwr,
tybir mai swm y ddyled a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.
3
Pan fo—
a
dyled yn cael ei sicrhau ar destun trafodiad tir yn union cyn y trafodiad ac yn union ar ei ôl, a
b
hawliau neu rwymedigaethau, mewn perthynas â’r ddyled honno, unrhyw barti i’r trafodiad yn newid o ganlyniad i’r trafodiad neu mewn cysylltiad â’r trafodiad,
yna at ddibenion y paragraff hwn mae’r prynwr yn ysgwyddo’r ddyled honno, ac mae’r ysgwyddo dyled hwnnw yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.
4
Mewn achos y mae is-baragraff (1)(b) neu (2) yn gymwys iddo—
a
pan fo’r ddyled a ysgwyddir yn ddyled, neu’n cynnwys dyled, a sicrheir ar yr eiddo sy’n ffurfio testun y trafodiad, a
b
pan oedd, yn union cyn y trafodiad, ddau berson neu ragor yn dal cyfran anrhanedig o’r eiddo hwnnw bob un, neu pan fo dau berson neu ragor o’r fath yn union ar ei ôl,
mae swm y ddyled sicredig a ysgwyddir i’w bennu fel pe bai swm y ddyled honno sy’n ddyledus gan bob un o’r personau hynny, ar adeg benodol, y gyfran ohono sy’n cyfateb i gyfran anrhanedig y person o’r eiddo ar yr adeg honno.
5
At ddibenion is-baragraff (4), caiff pob cyd-denant eiddo ei drin fel pe bai’n dal cyfran anrhanedig gyfartal ohono.
6
Os effaith y paragraff hwn fyddai bod swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn fwy na gwerth marchnadol testun y trafodiad, mae swm y gydnabyddiaeth drethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei gyfyngu i’r gwerth hwnnw.
7
Yn y paragraff hwn—
a
ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol,
b
ystyr “dyled bresennol”, mewn perthynas â thrafodiad, yw dyled a grëwyd neu a oedd yn codi cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, ac nad oedd wedi ei chreu neu nad oedd yn codi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac
c
mae cyfeiriadau at swm dyled yn gyfeiriadau at y prif swm sy’n daladwy neu, yn ôl y digwydd, gyfanswm y prif symiau sy’n daladwy, ynghyd â swm unrhyw log cronedig sy’n ddyledus ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith neu cyn hynny.