ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
Achosion pan na fodlonir amodau ar gyfer esemptiad yn llawn
9
(1)
Pe byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno o dan baragraff 5 o Atodlen 3 (cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol) oni bai am is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw (achosion pan fo person sy’n caffael eiddo yn rhoi cydnabyddiaeth amdano), nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys swm unrhyw ddyled sicredig a ysgwyddir.
(2)
Yn is-baragraff (1) mae i “dyled sicredig” yr un ystyr ag ym mharagraff 5 o Atodlen 3.
(3)
Pe byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno o dan baragraff 6 o Atodlen 3 (amrywio gwarediadau testamentaidd etc.) oni bai am fethiant i fodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b) o’r paragraff hwnnw (dim cydnabyddiaeth ac eithrio amrywio gwarediad arall), nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys gwneud unrhyw amrywiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.