Trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwchLL+C
11(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—
(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a
(b)os yw paragraff 13 neu 15 yn gymwys.
(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—
(a)os yw’r prynwr yn unigolyn, a
(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”).
(3)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr anheddau a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).
(4)Pan fo paragraff 18 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
(5)Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3