C1ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)

C1RHAN 4PRYNWR NAD YW’N UNIGOLYN

I1I2C120C1Trafodiad sy’n ymwneud ag annedd

1

Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

a

os nad yw’r prynwr yn unigolyn,

b

os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

c

os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr annedd yn £40,000 neu ragor.

2

Ond nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan is-baragraff (1) os yw, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

a

yr annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

b

prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

c

y les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (3).

3

Yr amodau yw—

a

nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

b

bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.