xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 4LL+CPRYNWR NAD YW’N UNIGOLYN

Trafodiad sy’n ymwneud ag anneddLL+C

20(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os nad yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr annedd yn £40,000 neu ragor.

(2)Ond nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan is-baragraff (1) os yw, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(a)yr annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)y les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 20 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3