C1ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
C1RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL
I1I13C123C1Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y trafodiad o dan sylw”), oherwydd paragraff 8(4) neu 17(4), yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b).
2
Ni chaniateir ystyried y trafodiad tir (“y trafodiad dilynol”) a oedd yn bodloni’r amod ym mharagraff 8(4)(b) neu 17(4)(b) at ddibenion paragraff 8(2)(b) neu 17(2)(b) wrth benderfynu pa un a yw unrhyw drafodiad trethadwy arall yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
3
Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
a
pan fo’r trafodiad dilynol yn cael effaith ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, neu cyn hynny, a
b
pan na fo’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.
4
Caiff y prynwr, wrth ddychwelyd y ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, drin yr annedd a brynir y cyfeirir ati ym mharagraff 8(4) neu 17(4) fel pe bai wedi disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith; ac mewn achos o’r fath mae’r trafodiad o dan sylw i’w drin fel pe na bai erioed wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
5
Mae is-baragraff (6) yn gymwys os effaith bod y trafodiad o dan sylw yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad hwnnw.
6
Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr—
a
o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);
b
ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth felly), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT.
I2I14C124C1Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin trafodiadau fel trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y rhyng-drafodiad”), oherwydd cymhwyso paragraff 9 neu 18, yn cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
2
Caiff y rhyng-drafodiad ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddibenion y Ddeddf hon o ddiwedd y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5).
3
Rhaid i’r prynwr yn y rhyng-drafodiad ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.
4
Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y paragraff hwn—
a
cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) i ben, a
b
cynnwys hunanasesiad.
I3I15C125C1Priodau a phartneriaid sifil yn prynu ar eu pen eu hunain
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—
a
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,
b
os yw’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad hwnnw, ac
c
os nad yw priod neu bartner sifil y prynwr yn brynwr yn y trafodiad.
2
Mae’r trafodiad i’w drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai priod neu bartner sifil y prynwr wedi bod yn brynwr.
3
Caiff unigolion sy’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, eu trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe baent yn cyd-fyw oni bai—
a
eu bod wedi gwahanu o dan orchymyn llys sydd ag awdurdodaeth gymwys,
b
eu bod wedi gwahanu drwy weithred wahanu, neu
c
eu bod wedi gwahanu mewn gwirionedd mewn amgylchiadau lle mae’r gwahanu yn debygol o fod yn barhaol.
I4I16C126C1Ad-drefnu eiddo ar ôl ysgariad, diddymiad partneriaeth sifil etc.
1
At ddiben penderfynu pa un a yw paragraffau 5 neu 15 yn gymwys i drafodiad trethadwy, nid yw’r prynwr i’w drin fel pe bai ganddo brif fuddiant mewn annedd arall y mae is-baragraff (2) a (3) yn gymwys iddi.
2
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd y mae’r buddiant ynddi yn cael ei ddal gan y prynwr fel tenant ar y cyd o ganlyniad i—
a
gorchymyn o dan adran 24(1)(b) o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad ag achosion priodasol),
b
gorchymyn o dan adran 17(1)(a)(ii) o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) (gorchmynion ad-drefnu eiddo ar ôl ysgariad tramor) sy’n cyfateb i orchymyn o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (a),
c
gorchymyn o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â diddymiad etc. partneriaeth sifil), neu
d
gorchymyn o dan baragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â diddymiad tramor etc. partneriaeth sifil) sy’n cyfateb i orchymyn o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (c).
3
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa person y gwneir gorchymyn y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) er ei fudd.
C1Setliadau ac ymddiriedolaethau noeth
I5I17C127
1
Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—
a
os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,
b
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad, ac
c
os bydd gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—
i
meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu
ii
incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.
2
Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—
a
os yw prif destun y trafodiad ar ffurf cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd, a
b
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraffau 2(1) a (2) o Atodlen 8).
3
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, mae buddiolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth (yn hytrach na’r ymddiriedolwr) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr (neu fel un ohonynt).
4
Mae paragraffau 3(3) a 4 o Atodlen 8 (trin ymddiriedolwyr fel y prynwr) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).
I6I18C128
1
Mae is-baragraff (3) yn gymwys—
a
pan fo person yn fuddiolwr o dan setliad,
b
pan fo prif fuddiant mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth, ac
c
pan fo gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—
i
meddiannu’r annedd am oes, neu
ii
incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd.
2
Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys—
a
pan fo person yn fuddiolwr o dan ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1) a 2 o Atodlen 8), a
b
pan fo cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth.
3
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
a
mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai’n dal y buddiant yn yr annedd, a
b
os yw ymddiriedolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth yn gwaredu’r buddiant, mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai wedi ei waredu.
I7I19C129
1
Pan fo—
a
prif destun trafodiad tir ar ffurf buddiant ar wahân i brif fuddiant mewn annedd, a
b
is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad,
yna, i osgoi unrhyw amheuaeth, effaith paragraff 28 o’r Atodlen hon neu, yn ôl y digwydd, paragraff 3(1) o Atodlen 8, yw fod prif destun y trafodiad i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ar ffurf prif fuddiant mewn annedd.
2
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—
a
prif fuddiant yn yr annedd yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth noeth ar gyfer buddiolwr (“B”),
b
holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,
c
yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—
i
mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn B, neu
ii
mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, a
d
yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—
i
mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn y prynwr, neu
ii
mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.
3
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—
a
person (“B”) yn fuddiolwr o dan setliad pan fo prif fuddiant yn yr annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth,
b
gan B, o dan delerau’r setliad, hawl i—
i
meddiannu’r annedd am oes, neu
ii
incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd,
c
holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,
d
yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, ac
e
yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.
4
Wrth bennu a yw is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys i drafodiad, anwybydder paragraffau 30 a 35(5).
I8I20C130
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pe bai plentyn person (“P”) (oni bai am y paragraff hwn), oherwydd paragraff 27 neu 28 neu baragraff 3(1) o Atodlen 8 (ymddiriedolaethau noeth), yn cael ei drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai—
a
y prynwr mewn perthynas â thrafodiad tir,
b
yn dal buddiant mewn annedd, neu
c
wedi gwaredu buddiant mewn annedd.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
a
mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai neu pe baent y prynwr, yn dal y buddiant neu (yn ôl y digwydd) wedi gwaredu’r buddiant, a
b
nid yw’r plentyn i’w drin felly.
3
Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).
4
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,
b
D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy i’r plentyn, ac
c
D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn, neu yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.
5
Yn is-baragraff (4), ystyr “dirprwy” yw—
a
person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu
b
person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).
I9I21C131
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—
a
os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,
b
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad,
c
os yw’r prynwr hwnnw yn unigolyn, a
d
os nad oes gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—
i
meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu
ii
incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.
2
Wrth benderfynu pa un a yw paragraff 20 neu 21 yn gymwys i’r trafodiad—
a
os y prynwr a grybwyllir yn is-baragraff (1) yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny, a
b
os nad y prynwr hwnnw yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny wrth ystyried y prynwr hwnnw.
I10I22C132C1Partneriaethau
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy y mae ei destun ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor—
a
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn bartner mewn partneriaeth, ond
b
os nad yw’r prynwr yn ymrwymo i’r trafodiad at ddibenion y bartneriaeth.
2
At ddibenion penderfynu pa un a yw paragraff 5 neu 15 yn gymwys i’r trafodiad, nid yw unrhyw brif fuddiant mewn unrhyw annedd arall a ddelir gan y bartneriaeth neu ar ei rhan at ddibenion masnach a gyflawnir gan y bartneriaeth i’w drin fel pe bai’n cael ei ddal gan y prynwr neu ar ei ran.
3
Mae paragraff 4(1)(a) o Atodlen 7 (trin buddiannau trethadwy a ddelir gan bartneriaethau fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (2).
I11I23C133C1Trefniadau cyllid arall
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy sydd y trafodiad cyntaf o dan drefniant cyllid arall yr ymrwymir iddo rhwng person a sefydliad ariannol.
2
Mae’r person (yn hytrach na’r sefydliad) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad.
3
Yn y paragraff hwn—
mae i “sefydliad ariannol” (“financial institution”) yr ystyr a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 10 (rhyddhadau cyllid eiddo arall);
mae i “trafodiad cyntaf” (“first transaction”), mewn perthynas â threfniant cyllid arall, yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1)(a) neu 3(1)(a) o’r Atodlen honno;
ystyr “trefniant cyllid arall” (“alternative finance arrangement”) yw trefniant o fath a grybwyllir ym mharagraff 2(1) neu 3(1) o’r Atodlen honno.
I12I24C134C1Prif fuddiannau mewn anheddau a gyd-etifeddir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys, yn rhinwedd etifeddiant—
a
pan fo person (“P”) yn cael hawl ar y cyd gydag un neu ragor o bersonau eraill i brif fuddiant mewn annedd, a
b
pan na fo cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50% (gweler is-baragraff (4)).
2
Nid yw P i’w drin at ddibenion paragraff 5(1)(a) neu 15(1)(b) fel pe bai ganddo’r prif fuddiant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad yr etifeddiant.
3
Ond os, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw o 3 blynedd, y daw P i fod yr unig berson sydd â hawl lesiannol i’r buddiant cyfan, neu os yw cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50%, mae P i’w drin, o’r adeg honno, fel pe bai ganddo’r prif fuddiant at ddibenion cymhwyso paragraffau 5(1)(a) a 15(1)(b) (yn ddarostyngedig i unrhyw warediad gan P).
4
Mae cyfran P yn y buddiant yn fwy na 50%—
a
os oes gan P hawl lesiannol fel tenant ar y cyd neu gydetifedd i fwy na hanner y buddiant,
b
os oes gan P a phriod neu bartner sifil P, gyda’i gilydd, hawl lesiannol i fwy na hanner y buddiant fel tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion, neu
c
os oes gan P a phriod neu bartner sifil P hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid, ac nad oes mwy nag un cyd-denant arall sydd â hawl o’r fath.
5
Nid yw is-baragraff (4)(b) ac (c) yn gymwys os nad yw P a phriod neu bartner sifil P yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”) ar y dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 neu 15 yn cael effaith.
6
Yn y paragraff hwn ystyr “etifeddiant” yw caffael buddiant mewn hawlogaeth, neu tuag at ddiwallu hawlogaeth, o dan ewyllys person ymadawedig neu mewn perthynas ag ewyllys o’r fath, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig.
7
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â buddiant a gaffaelir yn dilyn marwolaeth person o ganlyniad i amrywio gwarediad (pa un ai y rhoddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith sy’n ymwneud â diewyllysedd, neu fel arall) eiddo a gynhwysir yn ystad y person hwnnw a wneir o fewn y cyfnod o 2 flynedd ar ôl marwolaeth y person, fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag etifeddiant; ac mewn achos o’r fath mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (2) at ddyddiad yr etifeddiant yn golygu dyddiad caffael y buddiant yn unol â’r amrywiad.
Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12