xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12
35(1)Yn narpariaethau’r Atodlen hon a bennir yn is-baragraff (4), mae cyfeiriadau at “annedd” yn cynnwys cyfeiriadau at annedd a leolir y tu allan i Gymru.
(2)O ran annedd a leolir yn Lloegr, mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â darpariaethau Deddf Cyllid 2003 (p. 14).
(3)Wrth gymhwyso’r darpariaethau hynny mewn perthynas ag annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr—
(a)mae cyfeiriadau at “prif fuddiant” yn yr annedd yn gyfeiriadau at fuddiant cyfatebol yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,
(b)mae cyfeiriadau at bersonau sydd â hawl lesiannol i fuddiant yn yr annedd fel cyd-denantiaid, tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion yn gyfeiriadau at bersonau sydd â hawl gyfatebol i’r buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu diriogaeth honno,
(c)mae cyfeiriadau at “trafodiad tir” mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at gaffael buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,
(d)mae cyfeiriadau at “dyddiad cael effaith” trafodiad tir mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at y dyddiad y caffaelir y buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno, F1...
(e)mae cyfeiriadau at “etifeddiant” yn gyfeiriadau at gaffael buddiant o ystad person ymadawedig yn unol â chyfreithiau’r wlad neu’r diriogaeth honno ynghylch etifeddu eiddo.
[F2(f)mae cyfeiriadau at “cyfyngiadau perthnasol” yn gyfeiriadau at wahardd neu gyfyngu ar unrhyw weithgaredd drwy gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno neu gan awdurdod cyhoeddus y wlad neu’r diriogaeth honno yn rhinwedd cyfraith o’r fath at ddiben atal a rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng, ac
(g)mae’r cyfeiriad at “argyfwng” ym mharagraff (f), os yw’r annedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, i’w ddehongli fel pe bai pob cyfeiriad at y Deyrnas Unedig yn adran 19(1) o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36) yn gyfeiriad at y wlad neu’r diriogaeth y mae’r annedd ynddi.]
(4)Darpariaethau’r Atodlen hon y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1), (2) a (3) yw—
(a)paragraff 5(1)(a),
[F3(b)paragraff 8(2)(b), (c), (d) ac (e); paragraff 8(2A)(a) a (b); paragraff 8(2B)(a) ac (c); paragraff 8(4)(b), (c) a (d); paragraff 8(4A)(a) a (b); paragraff 8(4B)(a) ac (c) a pharagraff 8(4C)(a),]
(c)paragraff 9(4),
(d)paragraff 15(1)(b),
[F4(e)paragraff 17(2)(b), (c), (d) ac (e); paragraff 17(2A)(a) a (b); paragraff 17(2B)(a) ac (c); paragraff 17(4)(b), (c) a (d); paragraff 17(4A)(a) a (b); paragraff 17(4B)(a) ac (c) a pharagraff 17(4C)(a),]
(f)paragraffau 18(4),
(g)paragraff 26,
(h)paragraff 28,
(i)paragraff 32(2), a
(j)paragraff 34.
(5)Pan fo gan blentyn person (“P”) fuddiant mewn annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru—
(a)mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ganddo neu ganddynt y buddiant hwnnw, a
(b)nid yw’r plentyn i’w drin felly.
(6)Nid yw is-baragraff (5)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil i P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).
(7)Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys pan fo—
(a)person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,
(b)D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy’r plentyn, ac
(c)D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn neu, yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.
(8)Yn is-baragraff (7), ystyr “dirprwy” yw—
(a)person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu
(b)person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 5 para. 35(3)(d) wedi ei hepgor (12.7.2024) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 (O.S. 2024/791), rhlau. 1(2), 6(2)
F2Atod. 5 para. 35(3)(f)(g) wedi ei fewnosod (12.7.2024) gan Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 (O.S. 2024/791), rhlau. 1(2), 6(3)
F3Atod. 5 para. 35(4)(b) wedi ei amnewid (12.7.2024) gan Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 (O.S. 2024/791), rhlau. 1(2), 6(4)(a)
F4Atod. 5 para. 35(4)(e) wedi ei amnewid (12.7.2024) gan Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 (O.S. 2024/791), rhlau. 1(2), 6(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 5 para. 35 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
36(1)Mae’r paragraff hwn yn nodi rheolau ar gyfer penderfynu beth sy’n cyfrif fel annedd at ddibenion yr Atodlen hon.
(2)Mae adeilad neu ran o adeilad yn cyfrif fel annedd—
(a)os yw’n cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n addas i’w ddefnyddio fel annedd, neu
(b)os yw yn y broses o gael ei adeiladu neu ei addasu at ddefnydd o’r fath.
(3)Cymerir bod tir sy’n cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, neu dir a fydd yn cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, fel gardd neu diroedd (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar y tir hwnnw) yn rhan o’r annedd honno.
(4)Cymerir bod tir sy’n bodoli er budd annedd, neu dir a fydd yn bodoli er budd annedd, yn rhan o’r annedd honno.
(5)Cymerir hefyd fod prif destun trafodiad yn fuddiant mewn annedd, neu’n cynnwys buddiant mewn annedd—
(a)os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,
(b)os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd, ac
(c)os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn yr adeg y caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.
(6)Yn is-baragraff (5)—
mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gytundeb;
mae i “cyflawni’n sylweddol” (“substantially performed”) yr un ystyr ag yn adran 14;
ystyr “darpariaeth dybio berthnasol” (“relevant deeming provision”) yw unrhyw un neu ragor o adrannau 10 i 13 neu baragraffau 8(1) i (5) o Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau) neu baragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les).
(7)Nid yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir at ddiben a bennir yn adran 72(4) neu (5) yn cael ei ddefnyddio fel annedd at ddibenion is-baragraffau (2) na (5).
(8)Pan fo adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a grybwyllir yn is-baragraff (7), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-baragraff (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 5 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 5 para. 36 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
37At ddibenion yr Atodlen hon, nid yw unrhyw gyfnod o flynyddoedd absoliwt neu ystad lesddaliad yn “prif fuddiant” os nad yw cyfnod y les yn fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad y’i rhoddir.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 5 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 5 para. 37 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
[F538.(1)At ddibenion yr Atodlen hon—
mae i “argyfwng” yr ystyr a roddir i “emergency” gan adran 19 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36) ac nid yw wedi ei gyfyngu i ddigwyddiadau na sefyllfaoedd y mae pwerau’n cael eu harfer o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â hwy;
ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw person sy’n cyflawni swyddogaeth o natur gyhoeddus;
ystyr “cyfyngiad perthnasol” (“relevant restriction”) yw gwahardd neu gyfyngu ar unrhyw weithgaredd drwy ddeddfiad, neu gan awdurdod cyhoeddus yn rhinwedd deddfiad, at ddiben atal, rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng.
(2)Yn is-baragraff (1) nid yw “cyfyngiad perthnasol” yn cynnwys gwaharddiad na chyfyngiad a beidiodd â chael effaith cyn 12 Gorffennaf 2024.]
Diwygiadau Testunol