Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Valid from 18/10/2017

Valid from 01/04/2018

Premiymau gwrtholLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

15(1)Nid yw premiwm gwrthol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy yn achos rhoi, aseinio neu ildio les.

(2)Ystyr “premiwm gwrthol” yw—

(a)mewn perthynas â rhoi les, premiwm sy’n symud oddi wrth y landlord i’r tenant;

(b)mewn perthynas ag aseinio les, premiwm sy’n symud oddi wrth yr aseiniwr i’r aseinai;

(c)mewn perthynas ag ildio les, premiwm sy’n symud oddi wrth y tenant i’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)