ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
17Ildio les bresennol am les newydd
1
Pan roddir les yn gydnabyddiaeth am ildio les bresennol rhwng yr un partïon—
a
nid yw rhoi’r les newydd yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr ildio, a
b
nid yw’r ildio yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les newydd.
2
Nid yw paragraff 5 (cyfnewidiadau) o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy) yn gymwys mewn achos o’r fath.