ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 4CYTUNDEBAU AR GYFER LES, ASEINIADAU AC AMRYWIADAU

I1I224Gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall

1

Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn gostwng, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy.

2

Pan fo’r tenant yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol (ac eithrio cynnydd mewn rhent) ar gyfer unrhyw amrywiad i les, ac eithrio amrywio swm y rhent neu gyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy.

3

Pan gaiff les ei hamrywio fel bod ei chyfnod yn lleihau, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r landlord yn caffael buddiant trethadwy.