Gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arallLL+C
24(1)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn gostwng, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy.
(2)Pan fo’r tenant yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol (ac eithrio cynnydd mewn rhent) ar gyfer unrhyw amrywiad i les, ac eithrio amrywio swm y rhent neu gyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy.
(3)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod ei chyfnod yn lleihau, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r landlord yn caffael buddiant trethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 6 para. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3