ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 4CYTUNDEBAU AR GYFER LES, ASEINIADAU AC AMRYWIADAU

25Trin cynnydd mewn rhent fel rhoi les newydd: amrywio les yn ystod y 5 mlynedd gyntaf

1

Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn cynyddu o ddyddiad cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n achos o roi les yn gydnabyddiaeth am y rhent ychwanegol a wnaed yn daladwy ganddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i gynnydd mewn rhent yn unol ag—

a

darpariaeth a gynhwyswyd yn y les cyn ei hamrywio, neu

b

darpariaeth a grybwyllir ym mharagraff 10(6)(a) neu (b) (amrywiadau i lesoedd amaethyddol penodol).