ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 5CYFRIFO’R DRETH SYDD I’W CHODI

27Dim treth i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd preswyl

1

Yn achos caffael les breswyl, nid oes treth i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy reoliadau er mwyn rhoi, yn lle is-baragraff (1), gyfrifiad o’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yn achos caffael les breswyl.

3

O ran rheoliadau o dan is-baragraff (2)—

a

rhaid iddynt bennu’r dull cyfrifo (gan gynnwys y dull sy’n gymwys i achos pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae pob un ohonynt yn achos o gaffael les breswyl), a

b

cânt wneud unrhyw addasiadau cysylltiedig, atodol neu ganlyniadol eraill i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

4

Os gwneir rheoliadau o dan is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

5

Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—

a

band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LP”),

b

dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LP,

c

y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LP fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

d

dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

6

Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—

a

bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les breswyl;

b

dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (5)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.