Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysgLL+C
29Yn achos caffael les amhreswyl neu les gymysg, mae swm y dreth sydd i’w godi ar hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn (oni bai bod paragraff 30 (trafodiadau cysylltiol) yn gymwys).
Cam 1
Cyfrifo gwerth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les (gweler paragraff 31).
Cam 2
Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r caffaeliad, lluosi hynny o’r GNP sydd o fewn y band gyda’r gyfradd dreth ar gyfer y band hwnnw.
Cam 3
Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 2.
Y canlyniad yw swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 6 para. 29 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3