Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Lesoedd cysylltiol olynolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

6(1)At ddibenion y Ddeddf hon caiff cyfres o lesoedd cysylltiol ei thrin fel un les—

(a)a roddwyd ar adeg rhoi’r les gyntaf yn y gyfres,

(b)am gyfnod sy’n cyfateb i gyfnodau’r holl lesoedd gyda’i gilydd, ac

(c)yn gydnabyddiaeth am y rhent sy’n daladwy o dan yr holl lesoedd.

(2)Mae dwy les neu ragor yn ffurfio “cyfres o lesoedd cysylltiol” os ydynt—

(a)yn lesoedd olynol a roddir neu a gaiff eu trin fel pe baent wedi eu rhoi (boed ar yr un pryd neu ar adegau gwahanol) ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, a

(b)yn drafodiadau cysylltiol.

(3)Yn unol â hynny caiff rhoi lesoedd diweddarach yn y gyfres ei ddiystyru at ddibenion y Ddeddf hon oni bai am adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3