ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 5CYFRIFO’R DRETH SYDD I’W CHODI
I1I1526Lesoedd preswyl, lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg
At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae trafodiad—
a
yn gaffael les breswyl—
i
os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl, neu
ii
pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl;
b
yn gaffael les amhreswyl—
i
os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl, neu
ii
pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl;
c
yn gaffael les gymysg—
i
os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl, neu
ii
pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl.
I2I1627Dim treth i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd preswyl
1
Yn achos caffael les breswyl, nid oes treth i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy reoliadau er mwyn rhoi, yn lle is-baragraff (1), gyfrifiad o’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yn achos caffael les breswyl.
3
O ran rheoliadau o dan is-baragraff (2)—
a
rhaid iddynt bennu’r dull cyfrifo (gan gynnwys y dull sy’n gymwys i achos pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae pob un ohonynt yn achos o gaffael les breswyl), a
b
cânt wneud unrhyw addasiadau cysylltiedig, atodol neu ganlyniadol eraill i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.
4
Os gwneir rheoliadau o dan is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.
5
Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—
a
band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LP”),
b
dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LP,
c
y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LP fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a
d
dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
6
Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—
a
bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les breswyl;
b
dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (5)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.
I3I1328Cyfraddau treth a bandiau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg
1
Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent mewn achosion o gaffael les amhreswyl neu les gymysg.
2
Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (1) bennu—
a
band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LA”),
b
dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LA,
c
y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LA fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a
d
dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
3
Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1) bennu—
a
bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les amhreswyl neu les gymysg;
b
dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (2)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.
I4I1729Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg
Yn achos caffael les amhreswyl neu les gymysg, mae swm y dreth sydd i’w godi ar hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn (oni bai bod paragraff 30 (trafodiadau cysylltiol) yn gymwys).
Cam 1
Cyfrifo gwerth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les (gweler paragraff 31).
Cam 2
Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r caffaeliad, lluosi hynny o’r GNP sydd o fewn y band gyda’r gyfradd dreth ar gyfer y band hwnnw.
Cam 3
Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 2.
Y canlyniad yw swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent.
I5I1830Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol
Pan fo caffael les amhreswyl neu les gymysg yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer ar ffurf rhent neu’n cynnwys rhent, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cyswllt â’r rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn.
Cam 1
Cyfrifo cyfanswm gwerthoedd net presennol (“CGNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau pob un o’r lesoedd cysylltiol (gweler paragraff 31).
Cam 2
Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r caffaeliad, lluosi hynny o’r CGNP sydd o fewn y band gyda’r gyfradd dreth ar gyfer y band hwnnw.
Cam 3
Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 2.
Y canlyniad yw cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent.
Cam 4
Rhannu GNP y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les o dan sylw gyda’r CGNP.
Cam 5
Lluosi cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent gyda’r ffracsiwn sy’n deillio o Gam 4.
Y canlyniad yw cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent ar gyfer y les o dan sylw.
I6I1931Gwerth net presennol
Cyfrifir GNP y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod les drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—
Ffigwr 8
pan fo—
rhi y rhent sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn i,
i y flwyddyn gyntaf, yr ail flwyddyn, y drydedd flwyddyn etc. o gyfnod y les,
n yn gyfnod y les, a
A y gyfradd disgownt amser (gweler paragraff 32).
I7I2032Y gyfradd disgownt amser
At ddibenion paragraff 31 y “gyfradd disgownt amser” yw 3.5% neu unrhyw gyfradd arall y caiff Gweinidogion Cymru ei phennu drwy reoliadau.
I8I2133Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: cyffredinol
1
Pan fo cydnabyddaeth drethadwy ar wahân i rent yn achos caffael les, mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddaeth honno fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall (ond gweler paragraffau 34 a 35).
2
Mae treth sydd i’w chodi o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon mewn cysylltiad â rhent yn ychwanegol at unrhyw dreth sydd i’w chodi o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent.
I9I2234Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: dim band cyfradd sero ar gyfer lesoedd amhreswyl
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les amhreswyl pan fo—
a
cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a
b
adran 27 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiol) neu 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys i’r caffaeliad.
2
Os y swm penodedig o leiaf yw’r rhent perthnasol, nid yw’r band cyfradd sero yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent ac felly, caiff unrhyw achos a fyddai wedi bod o fewn y band hwnnw ei drin fel pe bai o fewn y band treth nesaf.
I10I2335Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysg
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les gymysg pan fo—
a
cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a
b
y rhent perthnasol sydd i’w briodoli i’r tir nad yw’n eiddo preswyl, ar sail dosraniad teg a rhesymol, yn cyfateb i’r swm penodedig o leiaf.
2
At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent, caiff y trafodiad (neu os yw’n un o gyfres o drafodiadau cysylltiol, y set honno o drafodiadau) ei drin (neu ei thrin) fel pe bai’n ddau drafodiad ar wahân ond cysylltiol (neu’n ddwy set ar wahân o drafodiadau cysylltiol sydd eu hunain yn gysylltiol) sef—
a
un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir sy’n eiddo preswyl (ac mae adran 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys yn unol â hynny), a
b
un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir nad yw’n eiddo preswyl (ac mae’r adran honno fel y’i diwygiwyd gan baragraff 34 yn gymwys yn unol â hynny).
3
At y diben hwnnw, y gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i bob un o’r trafodiadau (neu setiau o drafodiadau cysylltiol) ar wahân hynny yw’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli ar sail deg a rhesymol.
I1136Y rhent perthnasol
1
Ym mharagraffau 34 a 35—
I25a
ystyr “y rhent perthnasol” yw—
i
y rhent blynyddol mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw, neu
ii
os yw’r trafodiad hwnnw yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer yn rhent neu’n cynnwys rhent, cyfanswm y rhenti blynyddol mewn perthynas â’r holl drafodiadau hynny;
I252
Yn is-baragraff (1)(a) ystyr “y rhent blynyddol” yw—
a
y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod cyfnod y les, neu
b
os yw—
i
symiau gwahanol o rent yn daladwy ar gyfer gwahanol rannau o’r cyfnod, a
ii
y symiau hynny (neu unrhyw un neu ragor ohonynt) yn rhai y gellir eu canfod ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,
y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod y cyfnod y mae’r rhent uchaf y gellir ei ganfod yn daladwy.
I12I2637Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36.