xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—
(a)os oedd gan y person, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a
(b)os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.
(2)At ddibenion paragraff 14 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3