ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 4TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH
18Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi trethi
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);
b
pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);
c
pan drosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (“trosglwyddiad y bartneriaeth”);
d
pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth—
i
os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), gan y person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir;
ii
os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), gan y partner o dan sylw;
e
pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth yn unol â threfniadau sy’n drefniadau osgoi trethi, neu’n rhan ohonynt a oedd yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad tir;
f
pan nad yw trosglwyddiad y bartneriaeth (oni bai am y paragraff hwn) yn drafodiad trethadwy.
2
At ddibenion y Ddeddf hon, o ran trosglwyddiad y bartneriaeth—
a
cymerir ei fod yn drafodiad tir, a
b
mae’n drafodiad trethadwy.
3
Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr yn y trafodiad.
4
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir.
5
Y gyfran honno—
a
os nad yw’r person sy’n gwneud trosglwyddiad y bartneriaeth yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth yn union cyn y trosglwyddiad hwnnw;
b
os yw’r person yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad hwnnw ac ar ei ôl.
6
Cymerir bod trosglwyddiad y bartneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiol.
7
Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â throsglwyddiad y bartneriaeth, ond y partneriaid cyfrifol yw—
a
y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a
b
unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
8
Yn y paragraff hwn, mae i “trefniadau osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.