Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi trethi
18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);
(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);
(c)pan drosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (“trosglwyddiad y bartneriaeth”);
(d)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth—
(i)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), gan y person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir;
(ii)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), gan y partner o dan sylw;
(e)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth yn unol â threfniadau sy’n drefniadau osgoi trethi, neu’n rhan ohonynt a oedd yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad tir;
(f)pan nad yw trosglwyddiad y bartneriaeth (oni bai am y paragraff hwn) yn drafodiad trethadwy.
(2)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran trosglwyddiad y bartneriaeth—
(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a
(b)mae’n drafodiad trethadwy.
(3)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr yn y trafodiad.
(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir.
(5)Y gyfran honno—
(a)os nad yw’r person sy’n gwneud trosglwyddiad y bartneriaeth yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth yn union cyn y trosglwyddiad hwnnw;
(b)os yw’r person yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad hwnnw ac ar ei ôl.
(6)Cymerir bod trosglwyddiad y bartneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiol.
(7)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â throsglwyddiad y bartneriaeth, ond y partneriaid cyfrifol yw—
(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a
(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
(8)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniadau osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.