ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 2DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

4Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan bartneriaid etc.

1

At ddibenion y Ddeddf hon—

a

caiff buddiant trethadwy a ddelir gan neu ar ran partneriaeth ei drin fel pe bai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid, a

b

caiff trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion partneriaeth ei drin fel pe ymrwymir iddo gan neu ar ran y partneriaid,

ac nid gan neu ar ran y bartneriaeth fel y cyfryw.

2

Mae is-baragraff (1) yn gymwys er gwaethaf y ffaith yr ystyrir bod partneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani.