ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 10DEHONGLI

51Personau cysylltiedig

1

Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn cael effaith at ddibenion yr Atodlen hon.

2

Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1), mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (7) (partneriaid sy’n gysylltiedig â’i gilydd).

3

Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1) at ddibenion paragraffau 15, 16, 23 a 24, mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig â setliad).