ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 2DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Partneriaethau
3
Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—
(a)
partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39);
(b)
partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);
(c)
partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p. 12);
(d)
ffyrm neu endid o gymeriad tebyg i unrhyw un neu ragor o’r rhai a enwir uchod a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan bartneriaid etc.
4
(1)
At ddibenion y Ddeddf hon—
(a)
caiff buddiant trethadwy a ddelir gan neu ar ran partneriaeth ei drin fel pe bai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid, a
(b)
caiff trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion partneriaeth ei drin fel pe ymrwymir iddo gan neu ar ran y partneriaid,
ac nid gan neu ar ran y bartneriaeth fel y cyfryw.
(2)
Mae is-baragraff (1) yn gymwys er gwaethaf y ffaith yr ystyrir bod partneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani.
Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drethadwy ac eithrio pan ddarperir yn arbennig ar gyfer hynny
5
Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drafodiad trethadwy er gwaethaf y ffaith fod eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys tir, ac eithrio fel a ddarperir gan—
(a)
paragraff 18 (trosglwyddo buddiant yn unol â threfniadau cynharach);
(b)
paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo).
Parhad partneriaethau
6
At ddibenion y Ddeddf hon, caiff partneriaeth ei thrin fel yr un bartneriaeth er gwaethaf newid mewn aelodaeth os yw unrhyw berson a oedd yn aelod cyn y newid yn parhau i fod yn aelod ar ôl y newid.
Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau etc.
7
At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau nac yn gwmni buddsoddi penagored.