ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU

Ymddiriedolaethau noeth

3

(1)

Pan fo person (“Y”) yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwr noeth, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r buddiant wedi ei freinio yn y person neu’r personau y mae Y yn ymddiriedolwr iddo neu iddynt, a gweithredoedd Y mewn perthynas â’r buddiant yn weithredoedd ganddo neu ganddynt.

(2)

Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhoi les.

(3)

Pan roddir les i berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel prynwr y buddiant cyfan a gaffaelir.

(4)

Pan roddir les gan berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel gwerthwr y buddiant cyfan a waredir.