Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Ymddiriedolaethau noethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Pan fo person (“Y”) yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwr noeth, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r buddiant wedi ei freinio yn y person neu’r personau y mae Y yn ymddiriedolwr iddo neu iddynt, a gweithredoedd Y mewn perthynas â’r buddiant yn weithredoedd ganddo neu ganddynt.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhoi les.

(3)Pan roddir les i berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel prynwr y buddiant cyfan a gaffaelir.

(4)Pan roddir les gan berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel gwerthwr y buddiant cyfan a waredir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3