ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU
I1I28Ymddiriedolwyr perthnasol at ddibenion ffurflen dreth etc.
1
Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr sy’n ymddiriedolwyr cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad.
2
Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr ymddiriedolwyr sy’n dychwelyd ffurflen dreth o’r fath fel “yr ymddiriedolwyr perthnasol”.
3
Rhaid i’r holl ymddiriedolwyr perthnasol wneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).