RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL

Contractau a throsglwyddiadau: achosion penodol

I111Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—

a

i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu

b

naill ai i berson o’r fath neu i P2.

2

Nid ystyrir bod P2 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract.

3

Ond os caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—

a

caiff P2 ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n caffael buddiant trethadwy, ac felly fel pe bai’n ymrwymo i drafodiad tir, a

b

y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

4

Pan fo is-adran (3) yn gymwys a bod y contract wedi hynny yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).

5

Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn perthynas â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.

6

Yn ddarostyngedig i is-adran (7), nid yw adran 10 (contract a throsglwyddo) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

7

Pan fo—

a

yr adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b), a

b

P1 yn dod yn rhwym i drosglwyddo buddiant trethadwy i P2 oherwydd cyfarwyddyd neu gais gan P2,

mae adran 10 yn gymwys i’r rhwymedigaeth honno fel y mae’n gymwys i gontract ar gyfer trafodiad tir sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

8

Mae adran 10 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gontract rhwng P2 a P3, mewn cysylltiad â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato yn is-adran (1), sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

9

Mae cyfeiriadau at gwblhau yn yr adran honno, fel y mae’n gymwys, yn cynnwys cyfeiriadau at drosglwyddo, gan P1 i P3, destun y contract rhwng P2 a P3.

10

Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.