RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU
PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL
Opsiynau etc.
I1I215Opsiynau a hawliau rhagbrynu
1
Mae caffael—
a
opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir, neu
b
hawl rhagbrynu sy’n rhwystro’r grantwr rhag ymrwymo i drafodiad tir, neu’n cyfyngu ar hawl y grantwr i ymrwymo iddo,
yn drafodiad tir gwahanol i unrhyw drafodiad tir sy’n deillio o arfer yr opsiwn neu’r hawl.
2
Gallant fod yn “trafodiadau cysylltiol” (gweler adran 8).
3
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir yn cynnwys opsiwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r grantwr naill ai ymrwymo i drafodiad tir neu gyflawni ei rwymedigaethau o dan yr opsiwn mewn ffordd arall.
4
Y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yn achos caffael opsiwn neu hawl fel y rheini a grybwyllir yn is-adran (1) yw pan gaffaelir yr opsiwn neu’r hawl (yn hytrach na phan ddaw’n arferadwy).
5
Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys i hynny o opsiwn neu hawl rhagbrynu sy’n drafodiad tir neu’n ffurfio rhan o drafodiad tir ar wahân i’r adran hon.