RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Cyfrifo treth

I1I225Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth

1

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

a

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 24(1),

b

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6 (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd preswyl), neu

c

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

2

Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys—

a

yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan adran 24(1),

b

yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6, neu

c

yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno,

gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

3

Ond—

a

os yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (2) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

b

os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y bleidlais.

4

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo’r Cynulliad Cenedlaethol—

a

wedi ei ddiddymu, neu

b

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.