(1)Mewn perthynas â chynrychiolwyr personol person sy’n brynwr mewn trafodiad tir—
(a)maent yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad, a
(b)cânt ddidynnu unrhyw daliad a wneir ganddynt o dan y Ddeddf hon neu DCRhT o asedau ac eiddo’r ymadawedig.
(2)Mae derbynnydd a benodir gan lys yn y Deyrnas Unedig sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli unrhyw eiddo yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â thrafodiad sy’n effeithio ar yr eiddo hwnnw fel pe na bai’r eiddo o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y llys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 43 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3