RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 1FFURFLENNI TRETH
Addasiadau
I1I248Digwyddiad dibynnol yn peidio neu ganfod cydnabyddiaeth: ad-dalu treth
1
Mae is-adran (2) yn gymwys i drafodiad tir—
a
os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,
b
os ceir digwyddiad a grybwyllir yn adran 47(2) (“y digwyddiad perthnasol”), ac
c
os effaith y digwyddiad perthnasol yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â’r ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad (“y ffurflen dreth trafodiadau tir”).
2
Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr yn y trafodiad tir—
a
o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth trafodiadau tir, ddiwygio’r ffurflen dreth yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);
b
ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-adran (3).
3
O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-adran (2)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—
78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau
Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae adran 48(2)(b) o DTTT yn gymwys iddo gael ei wneud cyn yr olaf o’r canlynol—
a
diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn berthnasol iddi, neu
b
diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r digwyddiad perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 48(1)(b) o DTTT).
4
Ond os rhoi neu aseinio les yw’r trafodiad (“y trafodiad perthnasol”), ni chaniateir gwneud unrhyw hawliad o dan is-adran (2)—
a
mewn cysylltiad ag ad-dalu (yn llwyr neu’n rhannol) unrhyw fenthyciad neu flaendal a gaiff ei drin yn rhinwedd paragraff 19 o Atodlen 6 fel cydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad perthnasol, neu
b
mewn cysylltiad ag ad-dalu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y trafodiad perthnasol, mewn achos pan fo’r ad-daliad—
i
yn cael ei wneud o dan drefniadau a wnaed mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol, a
ii
yn ddibynnol ar derfynu neu aseinio’r les neu ar roi buddiant trethadwy allan o’r les.
5
Nid yw’r adran hon yn gymwys—
a
i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth ar ffurf rhent (gweler Atodlen 6);
b
pan fo adran 21 (blwydd-daliadau) yn gymwys.