RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1FFURFLENNI TRETH

Addasiadau

I1I250Ffurflen dreth unigol mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol sy’n cael effaith ar yr un dyddiad

1

Pan fo dau drafodiad cysylltiol neu ragor yn cael effaith ar yr un dyddiad caiff y prynwr, neu’r holl brynwyr os oes mwy nag un, ddychwelyd un ffurflen dreth fel pe bai’r holl drafodiadau hynny yn un trafodiad hysbysadwy.

2

Pan fo dau brynwr neu ragor yn dychwelyd un ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol, mae adrannau 37 i 40 yn gymwys fel pe bai—

a

y trafodiadau o dan sylw yn un trafodiad, a

b

y prynwyr hynny yn brynwyr sy’n gweithredu ar y cyd.