51Dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarachLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo effaith trafodiad sy’n gysylltiol o ran trafodiad cynharach (“y trafodiad diweddarach”) fel a ganlyn—
(a)daw’r trafodiad cynharach yn hysbysadwy,
(b)mae treth ychwanegol i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach, neu
(c)mae treth i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach pan nad oedd unrhyw dreth i’w chodi cyn hynny.
(2)Rhaid i’r prynwr yn y trafodiad cynharach ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.
(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith, a
(b)cynnwys hunanasesiad.
(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ofyniad i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad diweddarach.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3