(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra, a lleihau lefelau gordewdra, yng Nghymru.
(2)Rhaid i’r strategaeth—
(a)pennu amcanion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddant, os y’u cyflawnir, yn cyfrannu at atal gordewdra;
(b)pennu amcanion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddant, os y’u cyflawnir, yn cyfrannu at leihau lefelau gordewdra;
(c)nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyflawni’r amcanion penodedig.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth—
(a)ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth am y tro cyntaf, a
(b)ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o dair blynedd.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r strategaeth ar unrhyw adeg.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio’r strategaeth, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol—
(a)cyn iddynt gyhoeddi’r strategaeth am y tro cyntaf, a
(b)ar ôl hynny, cyn pob adolygiad o dan is-adran (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2A. 2 mewn grym ar 4.10.2017 gan O.S. 2017/949, ergl. 2(a)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 2.
(2)Yn dilyn pob adolygiad o’r strategaeth o dan adran 2(3) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cynnydd.
(3)Mae adroddiad cynnydd yn adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I4A. 3 mewn grym ar 4.10.2017 gan O.S. 2017/949, ergl. 2(b)