(1)Caiff rheoliadau ddarparu i fangreoedd—
(a)a fyddai fel arall yn fangreoedd di-fwg yn rhinwedd adran 7 (gweithleoedd) neu 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd), a
(b)nad ydynt yn fangreoedd di-fwg yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Bennod hon,
gael eu trin fel pe na baent yn fangreoedd di-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth mewn perthynas â disgrifiadau penodedig o fangreoedd neu ardaloedd penodedig o fewn disgrifiadau penodedig o fangreoedd.
(3)Caiff y rheoliadau ddarparu, mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o fangreoedd neu ardaloedd o fangreoedd a bennir yn y rheoliadau, fod y mangreoedd neu’r ardaloedd i gael eu trin fel pe na baent yn fangreoedd di-fwg—
(a)o dan amgylchiadau penodedig,
(b)ar adegau penodedig, neu
(c)os yw amodau penodedig wedi eu bodloni,
neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.
(4)Caiff yr amodau y caniateir iddynt gael eu pennu o dan is-adran (3)(c) gynnwys amod bod y person a chanddo ofal am y fangre wedi dynodi, yn unol â’r rheoliadau, ardaloedd lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2A. 16 mewn grym ar 29.9.2020 gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(2)(b)