xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 6LL+CASESIADAU O’R EFFAITH AR IECHYD

108Gofyniad i gynnal asesiadau o’r effaith ar iechydLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus.

(2)Mae asesiad o’r effaith ar iechyd yn asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobl Cymru.

(3)Rhaid i’r rheoliadau bennu—

(a)yr amgylchiadau y mae rhaid i gorff cyhoeddus gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd odanynt;

(b)y ffordd y mae asesiad o’r effaith ar iechyd i gael ei gynnal.

(4)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cymorth i gorff cyhoeddus arall sy’n cynnal asesiad o’r effaith ar iechyd.

(5)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r cymorth i gael ei roi, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd y mae i gael ei roi.

(6)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau a bennir yn y rheoliadau.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a

(b)cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

109Asesiadau o’r effaith ar iechyd: eu cyhoeddi a’u hystyriedLL+C

(1)Pan fo corff cyhoeddus wedi cynnal asesiad o’r effaith ar iechyd yn unol â rheoliadau o dan adran 108 rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r asesiad, a

(b)ystyried yr asesiad wrth arfer y swyddogaethau hynny y cynhaliwyd yr asesiad mewn cysylltiad â hwy.

(2)Wrth ystyried yr asesiad, rhaid i’r corff cyhoeddus weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(3)At ddiben is-adran (2), mae’r cyfeiriad at weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy i gael ei ddehongli yn unol ag adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi asesiadau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd y mae asesiadau i gael eu cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

110Ystyr “corff cyhoeddus”LL+C

(1)At ddibenion adrannau 108 a 109, mae pob un o’r personau a ganlyn yn “corff cyhoeddus”—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)yr Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ganlyn—

(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)Felindre;

(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (1) drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)dileu person, neu

(c)diwygio cyfeiriad at berson.

(3)Ond ni chaiff y rheoliadau ddiwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person oni bai bod y person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(4)Os yw’r rheoliadau yn diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person a chanddo swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, dim ond mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd o natur gyhoeddus y mae adrannau 108 a 109 yn gymwys i’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)