Valid from 31/05/2018
Valid from 13/09/2024
13(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded i awdurdodi iddi gael ei rhoi—
(a)rhaid iddo bennu’r driniaeth o dan sylw, a
(b)mae i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i gael ei drin, ar gyfer cymhwyso’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi trwydded sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).
(2)Ond nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar gyfnod y drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)