Apelau
18(1)Caiff ceisydd apelio i lys ynadon yn erbyn—
(a)gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig;
(b)gwrthod cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig;
(c)gwrthod cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)Caiff deiliad trwydded apelio i lys ynadon yn erbyn dirymiad o dan adran 68.
(3)Caiff unigolyn y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad i roi’r hysbysiad.
(4)Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad—
(a)yn achos apêl o dan is-baragraff (1) neu (2), yr hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod y cais neu o’r penderfyniad i ddirymu;
(b)yn achos apêl o dan is-baragraff (3), yr hysbysiad o dan adran 61(1).
(5)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).
(6)At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.
(7)Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu
(b)diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(8)Os yw’r llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.