- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Paragraff 21 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
21(1)Mae swyddogaethau awdurdod lleol o dan y darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon wedi eu dirprwyo, yn rhinwedd yr is-baragraff hwn, i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17)—
(a)adran 65(2) a 66(3) (gan gynnwys fel y’u cymhwysir yn rhinwedd adran 67 a pharagraff 13(1)), mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(b)adran 68, mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(c)paragraff 15(8);
(d)paragraffau 16 a 17.
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17) i fod yn gymwys mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod a ddirprwyir i bwyllgor trwyddedu yn rhinwedd is-baragraff (1) fel y maent yn gymwys i swyddogaeth a ddirprwyir o dan y Ddeddf honno, ac fel pe bai cyfeiriadau ynddynt at awdurdod trwyddedu yn gyfeiriadau at yr awdurdod o dan sylw—
(a)adran 7(9) (atgyfeirio’n ôl i awdurdod), a
(b)adran 10 (isddirprwyo).
(3)Wrth gymhwyso adran 10(4) o’r Ddeddf honno yn rhinwedd is-baragraff (2), mae’r rhestr o swyddogaethau yn is-baragraff (1)(a) i (d) wedi ei rhoi yn lle’r rhestr o swyddogaethau yn yr adran honno.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth o ran—
(a)dilysrwydd a chworwm;
(b)mynediad y cyhoedd;
(c)cyhoeddusrwydd;
(d)cofnodion.
(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y rheoliadau, caiff pob pwyllgor trwyddedu, at ddibenion arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei is-bwyllgorau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)
I3Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 29.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(jj) (ynghyd ag erglau. 4, 5)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: