Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Paragraff 8 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 19 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Trwydded yn dod i benLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Mae trwydded triniaeth arbennig i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)diwedd cyfnod y drwydded;

(b)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae dirymu’r drwydded yn cael effaith;

(c)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r drwydded yn peidio â chael effaith o dan baragraff 14(3) (terfynu trwydded yn wirfoddol);

(d)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi gan unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, y dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl yn cymryd effaith.

(2)Ond mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Back to top

Options/Help