Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 16

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 16 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

16Mangreoedd di-fwg: esemptiadauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau ddarparu i fangreoedd—

(a)a fyddai fel arall yn fangreoedd di-fwg yn rhinwedd adran 7 (gweithleoedd) neu 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd), a

(b)nad ydynt yn fangreoedd di-fwg yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Bennod hon,

gael eu trin fel pe na baent yn fangreoedd di-fwg at ddibenion y Bennod hon.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth mewn perthynas â disgrifiadau penodedig o fangreoedd neu ardaloedd penodedig o fewn disgrifiadau penodedig o fangreoedd.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu, mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o fangreoedd neu ardaloedd o fangreoedd a bennir yn y rheoliadau, fod y mangreoedd neu’r ardaloedd i gael eu trin fel pe na baent yn fangreoedd di-fwg—

(a)o dan amgylchiadau penodedig,

(b)ar adegau penodedig, neu

(c)os yw amodau penodedig wedi eu bodloni,

neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.

(4)Caiff yr amodau y caniateir iddynt gael eu pennu o dan is-adran (3)(c) gynnwys amod bod y person a chanddo ofal am y fangre wedi dynodi, yn unol â’r rheoliadau, ardaloedd lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 16 mewn grym ar 29.9.2020 gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(2)(b)

Back to top

Options/Help