Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/09/2020. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 25 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Valid from 01/03/2021

25Eiddo a gedwir: apelauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 23(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.

(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.

(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p.30).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Back to top

Options/Help