RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG
Cyflwyniad
56Trosolwg o’r Rhan hon
(1)
Mae’r Rhan hon yn darparu ei bod yn ofynnol i unigolion penodol sy’n rhoi triniaethau arbennig (gweler adran 57) yng Nghymru gael eu trwyddedu i wneud hynny gan awdurdod lleol os nad ydynt wedi eu hesemptio (gweler adran 60).
(2)
Mae adran 62 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y meini prawf sydd i gael eu bodloni er mwyn i gais am drwydded gael ei ganiatáu.
(3)
Mae adran 63 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau y bydd trwydded yn ddarostyngedig iddynt.
(4)
Mae adrannau 65 i 68 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am drwydded ac ar gyfer dirymu trwydded; ac mae adran 75 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gynnal cofrestr o’r unigolion hynny sydd wedi eu trwyddedu.
(5)
Mae adrannau 69 i 74 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymeradwyo mangre y rhoddir triniaeth arbennig ynddi neu gerbyd y rhoddir triniaeth arbennig ynddo.
(6)
Mae adran 76 yn galluogi awdurdod lleol i godi ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau triniaeth arbennig a chymeradwyaethau i fangreoedd a cherbydau.
(7)
Mae adrannau 77 i 81 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau y caiff awdurdod lleol eu cyflwyno yn achos torri gofynion y Rhan hon, ynghylch cydymffurfio â hysbysiadau ac ynghylch apelau.
(8)
Mae adran 82 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau o dan y Rhan hon.
(9)
Mae adrannau 83 i 90 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch pwerau awdurdodau lleol i orfodi gofynion y Rhan hon, ac mae adrannau 91 a 92 yn gwneud darpariaeth ynghylch eiddo a gedwir o dan y Rhan hon.