RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadol

62Meini prawf trwyddedu

1

Rhaid i reoliadau nodi meini prawf y mae rhaid eu bodloni ar gais gan unigolyn (“ceisydd”) am drwydded triniaeth arbennig er mwyn i’r cais gael ei ganiatáu (“meini prawf trwyddedu”).

2

Rhaid i’r meini prawf trwyddedu a bennir yn y rheoliadau fod yn rhai sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddangos gwybodaeth am—

a

rheoli heintiau a chymorth cyntaf, yng nghyd-destun y driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi;

b

y dyletswyddau a osodir, o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, ar berson sydd wedi ei awdurdodi gan drwydded triniaeth arbennig i roi’r driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi.

3

Caiff y meini prawf y trwyddedu hefyd (ymhlith pethau eraill) ymwneud—

a

â chymhwystra unigolyn i gael trwydded (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, safonau cymhwysedd);

b

â’r fangre neu’r cerbyd y mae rhoi triniaeth arbennig ynddi neu ynddo i gael ei awdurdodi, neu y mae cyfarpar neu ddeunydd a ddefnyddir mewn triniaeth arbennig i gael ei gadw neu ei baratoi ynddi neu ynddo (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, y cyfleusterau sydd ar gael yno a safonau hylendid);

c

â‘r cyfarpar sydd i’w ddefnyddio wrth roi triniaeth arbennig neu mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig.

4

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol beidio â dyroddi neu adnewyddu trwydded oni bai bod mangre neu gerbyd a nodir yn y cais wedi ei harolygu neu ei arolygu yn unol â’r rheoliadau at ddiben dyfarnu ar gydymffurfedd â’r meini prawf trwyddedu.

5

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—

a

â disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau;

b

â disgrifiadau gwahanol o driniaeth arbennig;

c

â’r amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo, ac a roddir triniaeth arbennig ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall).