RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd

70Cymeradwyo mangreoedd a cherbydau mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig

1

Caiff awdurdod lleol, ar gais a gyflwynir iddo gan berson sy’n cynnal busnes y rhoddir triniaeth arbennig yn ei ardal neu y mae’n debygol y rhoddir triniaeth arbennig yn ei ardal yng nghwrs y busnes hwnnw, drwy ddyroddi tystysgrif o dan yr adran hon (“tystysgrif gymeradwyo”), gymeradwyo mewn cysylltiad â’r driniaeth arbennig fangre neu gerbyd sydd o fewn is-adran (2).

2

Mae mangre neu gerbyd o fewn yr is-adran hon—

a

os yw, yn achos mangre, yn ardal yr awdurdod lleol;

b

os yw’r awdurdod lleol, yn achos cerbyd, yn ystyried bod y cerbyd yn cael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yn ardal yr awdurdod lleol neu’n debygol o gael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yno.

3

Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth—

a

ar gyfer meini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i gais am gymeradwyaeth gael ei ganiatáu;

b

ar gyfer yr amgylchiadau pan fo cais am gymeradwyaeth i gael ei ganiatáu;

c

ar gyfer yr amodau (“amodau cymeradwyo mandadol”) y mae cymeradwyaeth o dan yr adran hon i fod yn ddarostyngedig iddynt;

d

ynghylch apelio yn erbyn gwrthod cais am gymeradwyaeth.

4

Caiff yr amodau cymeradwyo mandadol, ymhlith pethau eraill, gynnwys amodau sy’n ymwneud ag arolygu mangreoedd a cherbydau a gymeradwyir o dan yr adran hon, ac arddangos tystysgrif gymeradwyo.

5

Rhaid i dystysgrif gymeradwyo bennu cyfnod, os nad yw’r gymeradwyaeth wedi dod i ben yn flaenorol o dan adran 72 neu 73, y mae’r gymeradwyaeth y mae’n ymwneud â hi i gael effaith ar ei gyfer, sef naill ai—

a

cyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod, sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir y dystysgrif gymeradwyo (y “dyddiad cymeradwyo”), neu

b

cyfnod o dair blynedd, sy’n dechrau â’r dyddiad cymeradwyo.

6

Oni bai ei bod yn peidio â chael effaith cyn hynny o dan adran 72 neu 73, mae cymeradwyaeth o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.

7

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

a

y ffordd y mae ceisiadau am gymeradwyaeth i gael eu gwneud a sut i ddelio â hwy (gan gynnwys ar gyfer talu ffi mewn cysylltiad â chais, ac ar gyfer cynnal arolygiadau cyn i gymeradwyaeth gael ei rhoi);

b

yr amgylchiadau pan na chaniateir i gais am gymeradwyaeth gael ei ganiatáu, neu pan ganiateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi yn ôl disgresiwn yr awdurdod y cyflwynir y cais iddo;

c

adnewyddu cymeradwyaeth;

d

amrywio cymeradwyaeth.

8

Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (7)(a) gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

a

darpariaeth ynghylch sut y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais;

b

darpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad i dalu ffi (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod lleol wrthod bwrw ymlaen â’r cais).

9

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—

a

â disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau;

b

â disgrifiadau gwahanol o driniaeth arbennig;

c

â’r amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig mewn mangre neu gerbyd, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo mewn mangre neu gerbyd, ac a roddir triniaeth arbennig ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall).