Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/09/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 76 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 19 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

76FfioeddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded triniaeth arbennig godi ffi ar ddeiliad y drwydded, naill ai’n gyfnodol neu fel arall, am gyhyd ag y mae’r drwydded yn parhau i gael effaith.

(2)Caiff awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo mangre neu gerbyd o dan adran 70 godi ffi ar y person y rhoddwyd y gymeradwyaeth i’w gais, naill ai’n gyfnodol neu fel arall, am gyhyd ag y mae’r gymeradwyaeth yn parhau i gael effaith.

(3)Mae swm ffi a godir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i gael ei ddyfarnu gan yr awdurdod, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â’r Rhan hon.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) i ddyfarnu ar swm y ffi.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â ffioedd a godir o dan yr adran hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—

(a)â’r ffordd y mae ffi i gael ei thalu;

(b)ag ad-dalu ffi (neu gyfran ohoni) mewn achosion o ordalu;

(c)ag adennill ffi sy’n ddyledus i awdurdod ac nad yw wedi ei thalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 76 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(i)

Back to top

Options/Help