RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Hysbysiadau camau adfer

78Trwyddedau triniaeth arbennig: hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwydded

(1)

Os yw awdurdod lleol a ddyroddodd drwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi wedi ei fodloni bod deiliad y drwydded yn torri amod trwyddedu mandadol cymwys, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i ddeiliad y drwydded.

(2)

Yn y Rhan hon cyfeirir at hysbysiad a roddir o dan yr adran hon fel hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded.

(3)

Rhaid i hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded—

(a)

datgan bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod deiliad y drwydded yn torri amod trwyddedu mandadol cymwys;

(b)

pennu’r materion a arweiniodd at y toriad;

(c)

pennu’r camau sydd i gael eu cymryd gan ddeiliad y drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r amodau trwyddedu mandadol cymwys;

(d)

pennu cyfnod (y “cyfnod cydymffurfio”) ar gyfer cymryd y camau hynny nad yw’n llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(4)

Rhaid i hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded hefyd ddatgan—

(a)

y caiff deiliad y drwydded apelio o dan adran 81 yn erbyn yr hysbysiad, a

(b)

y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.

(5)

Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod torri’r amod yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, caiff yr hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded hefyd wahardd deiliad y drwydded rhag rhoi’r driniaeth hyd nes bod y camau a bennir o dan is-adran (3)(c) wedi eu cymryd.

(6)

Caiff y gwaharddiad ymwneud â rhoi’r driniaeth gan ddeiliad y drwydded mewn ardal yng Nghymru sydd wedi ei phennu yn yr hysbysiad, neu ymwneud â rhoi’r driniaeth gan ddeiliad y drwydded yn unrhyw le yng Nghymru.

(7)

Pan fo hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded wedi ei roi i ddeiliad trwydded, nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn yn ystod y cyfnod cydymffurfio mewn cysylltiad—

(a)

â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu

(b)

ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw.

(8)

Os yw’r camau a bennir mewn hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod cydymffurfio, nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn mewn cysylltiad—

(a)

â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu

(b)

ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw cyn i’r camau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.

(9)

Ond nid oes dim byd yn is-adran (7) neu (8) sy’n atal achos am drosedd o dan adran 82 rhag cael ei gychwyn, ar unrhyw adeg, mewn cysylltiad â thorri gwaharddiad ar roi triniaeth sydd wedi ei gynnwys mewn hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded o dan is-adran (5).